has gloss | cym: Teledu Cymru a'r Gorllewin (Television Wales and the West) - (TWW) oedd y cwmni darlledu ITV yn ne-ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr rhwng 1958 a 1968. Arglwydd Derby oedd berchen y cwmni. Dechreuodd yr etholfraint yn 1956 a gorffennodd yn 1968. Fe ymunodd y cwmni â WWN o ogledd a gorllewin Cymru yn 1964. Roedd y sianel yn ddwyieithog hyd at 1968. Yn 1968, collodd TWW yr etholfraint i gwmni Arglwydd Harlech. Yng ngwanwyn 1968 caeodd TWW ac fe ddechreuodd gwasanaeth “ITSSWW” (Independent Television Service South Wales and West) am gyfnod byr. Ar 20 Mai 1968, dechreuodd sianel newydd Harlech (HTV). |